Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
08 Gorffennaf 2019
SL(5)426 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, sy’n rhagnodi’r dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996, yn ogystal â’r dosbarthiadau o bersonau o dramor, nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Tai 1996
Fe’u gwnaed ar: 24 Mehefin 2019
Fe’u gosodwyd ar: 25 Mehefin 2019
Yn dod i rym ar: 19 Gorffennaf 2019
SL(5)428 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, sy’n rhagnodi’r dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan adrannau 66, 68, 73 a 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn ogystal â’r dosbarthiadau o bersonau o dramor, nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan y Ddeddf honno.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Tai (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: